Mae simnai Wal Ddeuol Seldek yn gadarn, o ansawdd uchel a pherfformiad thermol uchel. Mae’r system yn cynnwys darnau syth, rhai ar dro, darnau cynnal a ffitiadau sy'n cael eu gwneud yn gyfan gwbl o ddur gwrthstaen a bwlch 30mm wedi’i inswleiddio â gwlân. Mae gorffeniad dur gwrthstaen sglein ond mae’n bosibl cael ffliw du , dewis sy’n dod yn fwyfwy poblogaidd.
Mae’n ffitio i’w gilydd gyda bracedi sy’n cloi bob uniad. Gallwch osod y system yn fewnol neu’n allanol. Mae tymheredd cymharol isel y wal allanol yn golygu bod modd gosod y stôf gyda bwlch aer o 50mm (2") yn unig rhyngddi â deunyddiau llosgadwy sy’n arbennig o ddefnyddiol mewn gosodiadau mewnol sy’n mynd drwy nenfydau.
Gwneir yr holl leininau a ddefnyddir ar gyfer leinio simneiau gan Schiedel TecnoFlex – dewis o leininau simnai a ffliw hyblyg sydd wedi’u dylunio ar gyfer leinio ffliw neu simnai mewn cartrefi.
Mae TecnoFlex Plus yn leinin simnai hyblyg dwy haen wedi’i ddylunio ar gyfer nwy, olew ac aml-danwydd, lle nad yw tymheredd y nwy yn y ffliw yn uwch na 600°C gyda diamedr rhwng 80 a 3000mm er ein bod ond yn defnyddio’r leininau hyn mewn stôfs aml danwydd.